400px NationalTrustUKLogo.svg Welcome & Service Assistant / Cynorthwyydd Croeso a Gwasanaeth

Welcome & Service Assistant / Cynorthwyydd Croeso a Gwasanaeth

National Trust

Summary

As the public face of our properties, you’ll provide a warm, friendly welcome, give information about the property, answer questions and make sure everyone has an enjoyable and memorable visit.

Salary: £12,612.60 per annum

Hours/working pattern: Annualised hours. Weekly hours will vary throughout the contract – to be discussed at interview. Please note: Weekends and public holidays will play a major part of this role.

Hours: This role is based on annualised hours, where the amount of hours you work each month will vary, however your salary will be paid in equal instalments over the year. Your contract will be for 1170 hours per annum.

Fel wyneb cyhoeddus ein heiddo, byddwch yn estyn croeso cynnes, cyfeillgar, yn rhoi gwybodaeth ynghylch yr eiddo, yn ateb cwestiynau ac yn sicrhau bod pawb yn mwynhau ymweliad cofiadwy.

Cyflog: £12,612.60 y flwyddyn

Oriau/patrwm gweithio: Cytundeb Oriau Blynyddol. Bydd yr oriau yn amrywio drwy gydol y contract – i’w drafod yn y cyfweliad. Noder: Bydd gweithio ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus yn chwarae rhan allweddol yn y rôl hon.

Oriau: Mae’r swydd hon yn seiliedig ar oriau blynyddol, a gall faint o oriau rydych chi’n eu gweithio bob mis amrywio, ond bydd eich cyflog yn cael ei dalu mewn 12 rhandaliad cyfartal dros y flwyddyn. Bydd eich contract am 1170 awr y flwyddyn.

What it’s like to work here

The magnificent Chirk Castle is situated on a sweeping 480-acre estate on the Welsh border and is brimming full of 700 years’ worth of history. The property offers a superb visitor welcome, and the team welcome people with superb customer service skills to help bring to life the castle’s powerful story. The property offers a lively and diverse programme of events. People travel in either by public transport or car.

Reporting to our Welcome Manager, you’ll be part of a team of staff and volunteers working at the North-East Wales portfolio based at Chirk Castle. Investing in you We want you to learn, discover and develop your career. And we’ll do everything we can to offer you the training and support that you need to achieve your goals. We’ll work with you to plan your development in a way that’s right for your needs.

Mae Castell arbennig y Waun wedi’i leoli ar ystâd 480-acer eang ar ffin Cymru, ac mae’n orlawn o hanes sy’n dyddio’n ôl 700 mlynedd. Mae’r adeilad yn cynnig croeso cynnes i ymwelwyr, ac mae’r tîm yn croesawu pobl gyda sgiliau gwasanaeth cwsmer gwych er mwyn cyflwyno stori bwerus y castell mewn ffordd ddiddorol. Yn yr adeilad ceir rhaglen amrywiol a bywiog o ddigwyddiadau. Mae modd cyrraedd yno gyda thrafnidiaeth gyhoeddus neu mewn car. Yn atebol i’r Rheolwr Croeso, byddwch yn rhan o dîm o staff a gwirfoddolwyr yn gweithio yn y portffolio Gogledd Ddwyrain wedi’i leoli yng Nghastell y Waun. Buddsoddi ynoch chi Rydym eisiau i chi ddysgu, darganfod a datblygu eich gyrfa. A byddwn yn gwneud popeth y gallwn i gynnig yr hyfforddiant ar gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i gyflawni eich nodau. Byddwn yn gweithio gyda chi i gynllunio’ch datblygiad mewn ffordd sy’n addas ar gyfer eich anghenion.

What you’ll be doing

Day to day, you’ll deliver a great all-round customer service experience. You’ll be on hand answering queries and listen to what our visitors need so you can share the right information. Your role is to make sure our visitors have the best day they can. You’ll have the chance to be involved in different aspects of the visitor experience, from key property events to social media promotion – no two days are the same.

Great visitor experiences are in our nature, and we believe everyone should feel welcomed, appreciated and more engaged because of the excellent service you provide. This role would suit anyone with a passion for delivering great customer service.

O ddydd i ddydd, byddwch yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid cyffredinol gwych. Byddwch wrth law i ymateb i ymholiadau a gwrando ar yr hyn sydd ei angen ar ein hymwelwyr fel y gallwch rannu’r wybodaeth gywir. Pwrpas eich rôl yw sicrhau bod ein hymwelwyr yn cael y diwrnod gorau posib. Byddwch yn cael y cyfle i ddod yn rhan o wahanol agweddau ar y profiad ymwelwyr, o ddigwyddiadau eiddo allweddol i hyrwyddo’r cyfryngau cymdeithasol – nid oes dau ddiwrnod fel ei gilydd.

Mae profiadau gwych i ymwelwyr yn rhan o’n natur, ac rydym yn credu y dylai pawb deimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu gwerthfawrogi a’u bod yn ymgysylltu’n well oherwydd y gwasanaeth rydych chi’n ei ddarparu. Byddai’r rôl hon yn addas i unrhyw un sy’n frwd dros ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid gwych.

Who we’re looking for

We’d Love To Hear From You If You Are

  • customer focused with an understanding of the importance of great service
  • a team player, but also can work on your own initiative
  • well organised and adaptable
  • willing to learn new skills
  • have a positive attitude

Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi os ydych chi’n bodloni’r canlynol:

  • unigolyn sy’n canolbwyntio ar y cwsmer sydd â dealltwriaeth o bwysigrwydd gwasanaeth gwych
  • yn gallu gweithio mewn tîm
  • yn ogystal ag ar eich menter eich hun unigolyn hynod drefnus ac
  • yn meddu ar agwedd hyblyg unigolyn sy’n barod i ddysgu sgiliau newydd
  • agwedd gadarnhaol

The package

The National Trust has the motto ‘For everyone, for ever’ at its heart. We’re working hard to create an inclusive culture, where everyone feels they belong. It’s important that our people reflect and represent the diversity of the communities and audiences we serve. We welcome and value difference, so when we say we’re for everyone, we want everyone to be welcome in our teams too.

  • Substantial pension scheme of up to 10% basic salary
  • Free entry to National Trust properties for you, a guest and your children (under 18)
  • Tax free childcare scheme
  • Rental deposit loan scheme
  • Season ticket loan
  • Perks at work discounts i.e. gym memberships, shopping discount codes, cinema discounts
  • Holiday allowance up to 32 days relating to length of service, plus holiday purchase scheme, subject to meeting minimum criteria.
  • Flexible working whenever possible
  • Employee assistance programme
  • Free parking at most locations
  • Independent financial advice

Click here to find out more about the benefits we offer to support you.

Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw ‘I bawb, am byth’. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo’n gartrefol yn ein timau hefyd.

  • Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol
  • Mynediad am ddim i eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a’ch plant (dan 18 oed)
  • Cynllun gofal plant di-dreth
  • Cynllun benthyciad blaendal rhent
  • Benthyciad tocyn tymor
  • Gostyngiadau buddion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema
  • Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas â hyd y gwasanaeth, yn ogystal â chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol.
  • Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo’n bosibl
  • Rhaglen cynorthwyo cyflogai
  • Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau
  • Cyngor ariannol annibynnol

Cliciwch yma i ddysgu mwy am y buddion rydym yn eu cynnig i’ch cefnogi chi.

To apply for this job please visit careers.nationaltrust.org.uk.


Job Notifications
Subscribe to receive notifications for the latest job vacancies.