400px NationalTrustUKLogo.svg Head Gardener / Prif Arddwr

Head Gardener / Prif Arddwr

National Trust

Summary

Wales is home to some of the finest gardens in the UK – the gardens at Erddig, dating from the late 17th Century, are Grade 1 registered, notable as an example of early formal garden design, set in an eighteenth-century landscape park.

The formal garden, influenced by French and Dutch garden design, was restored in the 1970’s, then the largest garden restoration project the National Trust had undertaken. The gardens have since developed and matured to be ‘one of the Jewels of Wales’ and are of international importance. You’ll be responsible for ensuring that the ‘Spirit of Place’ is enhanced, and the gardens maintained to the highest standard. This is an opportunity to showcase the pinnacle of gardening art & craft.

Accommodation is provided to the postholder for the proper or better performance of his or her duties in accordance with Trust criteria and HMRC rules

Crynodeb

Mae Cymru’n gartref i rai o’r gerddi harddaf yn y Deyrnas Unedig – mae’r gerddi yn Erddig, sy’n dyddio o ddiwedd y 17eg Ganrif, wedi’u cofrestru’n Radd 1, ac yn nodedig fel enghraifft o ddyluniad gardd ffurfiol, a leolir mewn parc tirwedd sy’n dyddio’n ôl i’r ddeunawfed ganrif.

Fe gafodd yr ardd ffurfiol, a ddylanwadwyd gan ddyluniadau gerddi Ffrengig ac Iseldiraidd, ei hadnewyddu yn y 1970’au, fel rhan o’r prosiect mwyaf a ymgymerwyd erioed gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i adnewyddu gardd. Erbyn heddiw, mae’r gerddi wedi datblygu ac aeddfedu i greu ‘un o drysorau Cymru’ ac maent o bwys rhyngwladol. Byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod ‘Ysbryd y Lle’ yn cael ei hybu, a bod y gerddi’n cael eu cynnal a chadw i’r safon uchaf. Mae hwn yn gyfle i arddangos y gorau o blith celf a chrefft garddio.

Darperir llety i ddeiliad y swydd ar gyfer perfformiad priodol neu well o’i ddyletswyddau yn unol â meini prawf yr Ymddiriedolaeth a rheolau CThEM

What it’s like to work here

The gardens at Erddig have been providing interest for over 300 years and we continue to take an innovative approach, integrating changes in environmental and operational developments in horticulture to meet current and future targets. Building on our reputation as a progressive and adaptive historic garden, experimenting with plant propagation and productive horticultural techniques, responding to the impacts of climate change, we continue to support the principles of conservation.

More widely, you’ll be an important part of the Erddig ‘family’; developing and taking the property forward to be the ‘go to’ place to visit and supporting the portfolio to increase its visitor growth and diversity.

Please also read the full role profile attached to this advert.

Sut brofiad yw gweithio yma

Mae’r gerddi yn Erddig wedi bod o ddiddordeb ers dros 300 o flynyddoedd, ac rydym yn parhau i weithio mewn modd arloesol, gan integreiddio newidiadau mewn garddwriaeth, o safbwynt datblygiadau amgylcheddol a gweithredol, i gyflawni targedau presennol a rhai at y dyfodol. Gan adeiladu ar ein henw fel gardd hanesyddol flaengar, sydd â’r gallu i addasu, sy’n arbrofi ym maes lluosogi planhigion a thechnegau garddwriaethol cynhyrchiol, wrth ymateb i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, rydym yn parhau i gefnogi egwyddorion cadwraeth.

O safbwynt ehangach, byddwch yn rhan bwysig o ‘deulu’ Erddig, wrth ddatblygu a hyrwyddo’r eiddo i fod y lleoliad gorau i ymweld ag ef, ynghyd â chefnogi’r portffolio er mwyn hybu ei dwf o safbwynt niferoedd ei ymwelwyr a’u hamrywiaeth.

Dylech hefyd ddarllen y proffil llawn ar gyfer y rôl, sydd wedi’i atodi i’r hysbyseb hwn.

What you’ll be doing

You’ll be responsible for the day-to-day management and development of the 25 plus acres of garden at Erddig, liaising with colleagues across the Chirk and North East Wales portfolio.

You’ll join and line manage an established garden team of 3 staff and some 20 volunteers, managing their workload, delivering training to new staff and volunteers and helping build and support any new and existing visiting audiences.

You’ll enable us to develop the garden in such a way that it provides continuing and renewed interest, whilst retaining the sense of place and of history.

Working in collaboration with the Visitor Experience, Visitor Welcome and Facilities teams to interact with our visitors – answering their questions, supporting gardening workshops and tours, and setting up and participating in events when needed – you’ll be a key voice within this complex operation.

Eich gwaith

Byddwch yn gyfrifol am waith rheoli a datblygu dydd i ddydd dros 25 erw o erddi yn Erddig, gan gysylltu â chydweithwyr ar hyd a lled portffolio’r Waun a Gogledd Ddwyrain Cymru.

Byddwch yn ymuno â thîm sefydledig y gerddi, o 3 aelod staff a thua 20 o wirfoddolwyr, gan weithredu fel eu rheolwr llinell, ynghyd â rheoli eu llwyth gwaith, darparu hyfforddiant i staff a gwirfoddolwyr newydd, a helpu i feithrin a chefnogi unrhyw gynulleidfaoedd newydd, neu rai sydd eisoes yn ymweld â’r gerddi.

Byddwch yn ein galluogi i ddatblygu’r ardd mewn modd sy’n ennyn diddordeb parhaus ac yn denu diddordeb o’r newydd, wrth gadw’r ymdeimlad o le a hanes.

Gan weithio ar y cyd â’r timau Profiad Ymwelwyr, Croesawu Ymwelwyr a Chyfleusterau o safbwynt rhyngweithio â’n hymwelwyr – o ran ateb eu cwestiynau, cefnogi gweithdai a theithiau garddio, a sefydlu a chwarae rhan mewn digwyddiadau pan fo angen – byddwch yn llais allweddol o fewn y gweithrediad cymhleth hwn.

Who we’re looking for

To be successful in this role you should be able to demonstrate the following:

  • trained as a professional gardener/horticulturalist to RHS Level 3 or equivalent experience, with significant practical experience, competent with the use and maintenance of garden machinery including chainsaws, tractors, hedge trimmers, pedestrian and ride on mowers.
  • have supervisory experience from a similar role, leadership skills, including coaching, team care, development, motivation and excellent communication.
  • good people skills, enabling strong relationships to be built and maintained, externally and internally.
  • flexible and adaptable, you will be an enabler for other teams.
  • an eye for artistic planting and design skill with knowledge and understanding of the conservation of historic landscapes.
  • experience of managing operational risk, including how to assess and manage risk effectively and knowledge of all Health and Safety and compliance requirements relevant for horticulture.
  • good written and verbal communication skills including public presentation, influencing and negotiating.

Am bwy ydym ni’n chwilio

I lwyddo yn y rôl hon, dylech fedru arddangos y canlynol:

  • dylech fod wedi’ch hyfforddi fel garddwr/garddwriaethydd proffesiynol hyd at lefel 3 yr RHS, neu fod gennych brofiad cyfatebol, gyda chryn brofiad ymarferol, ac yn gymwys i ddefnyddio a chynnal a chadw peirannau garddio, sy’n cynnwys llifiau cadwyn, tractorau, tocwyr gwrychoedd, a pheiriannau torri gwair y byddir yn eu gwthio, neu rai y byddir yn eistedd arnynt.
  • dylai fod gennych brofiad o oruchwylio staff mewn rôl debyg, ynghyd â sgiliau arwain, sy’n cynnwys hyfforddi, gofalu am dimau, a’u datblygu a’u cymell, a dylech hefyd feddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog.
  • dylai fod gennych sgiliau da o safbwynt delio â phobl, y gallu i feithrin a chynnal cysylltiadau cryf, yn allanol ac yn fewnol.
  • dylech fod yn hyblyg ac yn barod i addasu eich arferion gweithio, byddwch yn gweithredu fel galluogydd ar gyfer timau eraill.
  • byddwch yn rhoi sylw i waith plannu artistig ac yn meddu ar sgiliau dylunio ac yn wybodus am gadwraeth tirweddau hanesyddol ac yn dangos dealltwriaeth o’r maes.
  • bydd gennych brofiad o reoli risg o safbwynt gweithredol, gan gynnwys sut i asesu a rheoli risg yn effeithiol, a bydd gennych ddealltwriaeth o’r holl ofynion yng nghyswllt Iechyd a Diogelwch a chydymffurfiaeth sy’n berthnasol i arddwriaeth.
  • bydd gennych sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar da, gan gynnwys gwneud cyflwyniadau i’r cyhoedd, ynghyd â dylanwadu a negodi.

The package

The National Trust has the motto ‘For everyone, for ever’ at its heart. We’re working hard to create an inclusive culture, where everyone feels they belong. It’s important that our people reflect and represent the diversity of the communities and audiences we serve. We welcome and value difference, so when we say we’re for everyone, we want everyone to be welcome in our teams too.

  • Substantial pension scheme of up to 10% basic salary
  • Free entry to National Trust properties for you, a guest and your children (under 18)
  • Tax free childcare scheme
  • Rental deposit loan scheme
  • Season ticket loan
  • Perks at work discounts i.e. gym memberships, shopping discount codes, cinema discounts
  • Holiday allowance up to 32 days relating to length of service, plus holiday purchase scheme, subject to meeting minimum criteria.
  • Flexible working whenever possible
  • Employee assistance programme
  • Free parking at most locations
  • Independent financial advice

Click here to find out more about the benefits we offer to support you.

Y pecyn

Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw ‘I bawb, am byth’. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo’n gartrefol yn ein timau hefyd.

  • Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol
  • Mynediad am ddim i eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a’ch plant (dan 18 oed)
  • Cynllun gofal plant di-dreth
  • Cynllun benthyciad blaendal rhent
  • Benthyciad tocyn tymor
  • Gostyngiadau buddion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema
  • Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas â hyd y gwasanaeth, yn ogystal â chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol.
  • Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo’n bosibl
  • Rhaglen cynorthwyo cyflogai
  • Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau
  • Cyngor ariannol annibynnol

Cliciwch yma i ddysgu mwy am y buddion rydym yn eu cynnig i’ch cefnogi chi.

To apply for this job please visit careers.nationaltrust.org.uk.


Job Notifications
Subscribe to receive notifications for the latest job vacancies.