Community Education Coordinator / Cydlynydd Addysg Gymunedol

British Red Cross

Community Education Coordinator
Location: Cardiff – office or home based with travel to schools and other educational venues
Hours: 35 hours per week
Contract: Permanent
Salary: £20,501 to £22,429 per annum
Driving – You must have a full valid UK Driving Licence with access to your own vehicle
Language – We require a Welsh speaker for this role and you should confirm this within your application / supporting statement
Cydlynydd Addysg Gymunedol
Lleoliad: Caerdydd – yn y swyddfa neu gartref gan gynnwys teithio i ysgolion a lleoliadau addysgol eraill
Oriau: 35 awr yr wythnos
Contract: Parhaol
Cyflog: £20,501 i £22,429 y flwyddyn
Gyrru – Rhaid i chi gael Trwydded Yrru ddilys lawn y DU gyda cherbyd at eich defnydd
Iaith – Mae angen siaradwr Cymraeg arnom ar gyfer y swydd hon
Do you have a passio n for equipping people with vital skills by delivering humanitarian education face-to-face and digitally? Can you develop and manage a team of dedicated volunteers? We want to hear from you!
Ydych chi’n frwd dros roi sgiliau hanfodol i bobl drwy ddarparu addysg ddyngarol wyneb yn wyneb ac yn ddigidol? Allwch chi ddatblygu a rheoli tîm o wirfoddolwyr ymroddedig? Rydym ni eisiau clywed gennych chi!
About this opportunity…

We are looking for a Community Education Coordinator to join our team at the British Red Cross. We need a passionate Educator who wants to support their communities and equip them with vital skills by delivering humanitarian education, face-to-face and digitally, and by developing and managing a team of volunteers across Cardiff and the surrounding areas.
You will be managing the allocation of resources and volunteers in the area to increase the British Red Cross geographical footpri nt and capacity within communities.
Reporting to the Community Education Manager, you will manage community external partnerships and relationships, and support the implementation of partnerships and externally funded projects.
You will also have accountability for all aspects of the Community Education blended learning offer for your area and will ensure the education delivery is consistent and at the appropriate quality standard
This is a great opportunity to make a real impact, through facilitated learning to adults and young people. You will be helping us better equip thousands of people to cope and take action in the event of a crisis.
Please note that whilst the core hours for this role are 9am to 5pm, 5 days a week, some flexibility will be required to work occasional evenings and weekends as required.
Mwy am y cyfle hwn…
Rydym yn chwilio am **Gydlynydd Addysg Gymunedol i ymuno â’n tîm yn y Groes Goch Brydeinig. Mae angen Addysgwr brwd arnom sydd eisiau cefnogi ei gymunedau a’u galluogi i feithrin y sgiliau hanfodol drwy ddarparu addysg ddyngarol, wyneb yn wyneb ac yn ddigidol, a thrwy ddatblygu a rheoli tîm o wirfoddolwyr ledled Caerdydd a’r ardaloedd cyfagos.
Byddwch chi’n rheoli’r gwaith o ddyrannu adnoddau a gwirfoddolwyr yn yr ardal er mwyn cynyddu ôl troed daearyddol a chapasiti’r Groes Goch Brydeinig mewn cymunedau.
Byddwch chi’n atebol i’r Rheolwr Addysg Gymunedol, yn rheoli cysylltiadau a phartneriaethau cymunedol allanol ac yn cefnogi’r gwaith o weithredu partneriaethau a phrosiectau a gaiff eu hariannu’n allanol.
Byddwch chi hefyd yn atebol am bob agwedd ar y ddarpariaeth dysgu cyfunol ar gyfer Addysg Gymunedol yn eich ardal a byddwch yn sicrhau bod y ddarpariaeth addysg yn gyson ac yn cyrraedd y safon ansawdd briodol.
Mae hwn yn gyfle gwych i gael effait h wirioneddol, drwy ddarparu dysgu wedi’i hwyluso i oedolion a phobl ifanc. Byddwch chi’n ein helpu i baratoi miloedd o bobl yn well ar gyfer ymdopi a chymryd camau os bydd argyfwng.
Cofiwch, er mai 9am i 5pm yw’r oriau craidd ar gyfer y swydd hon, 5 diwrnod yr wythnos, bydd angen rhywfaint o hyblygrwydd i weithio gyda’r nos ac ar y penwythnos o bryd i’w gilydd yn ôl yr angen. Say hello to the team …
Our vision is a world where everyone gets the help they need in a crisis
Our education offer has been developed for those with an increased risk of experiencing a crisis. We’ve designed our service to develop people’s individual and community resilience; delivering vital skills that help people effectively cope with and take action in a crisis.
We want everyone in the UK to have the opportunity to learn first aid/education, and identified risk groups to have the skills and confidence to be able to cope in a crisis, so they can help themselves and others Gair am y tîm…
Ein gweledigaeth yw byd lle mae pawb yn cael yr help sydd ei angen arnyn nhw mewn argyfwng.
Mae ein darpariaeth addysg wedi cael ei datblygu ar gyfer y rheini sydd â risg uwch o brofi argyfwng. Rydym ni wedi dylunio ein gwasanaeth i ddatblygu gwytnwch unigolion a chymunedau; gan feithrin sgiliau hanfodol sy’n helpu pobl i ymdopi’n effeithiol ag argyfwng a chymryd camau mewn argyfwng.
Rydym ni am i bawb yn y DU gael y cyfle i ddysgu cymorth cyntaf/addysg, ac rydym ni am i grwpiau risg a nodir feddu ar y sgiliau a’r hyder i allu ymdopi mewn argyfwng, er mwyn iddyn nhw allu helpu eu hunain ac eraill. This role might be for you if …
You’ve got a recognised education, training or facilitation qualification (or equivalent by experience) and excellent coaching and motivational skills
You’ve got experience of recruiting, selecting, managing, and supporting volunteers
You’ve got experience of facilitated learning and adapting nationally approved learning content to meet user needs
Please note that if you are invited to interview one question will be asked in Welsh.
(Please read the full Role Profile/ Job Description for more information about this vacancy including responsibilities and full person specification and refer to the ‘Additional Information’ attached for support completing your application) Gallai’r rôl hon fod yn addas i chi os…
Mae gennych chi gymhwyster addysg, hyfforddiant neu hwyluso cydnabyddedig (neu gymhwyster cyfatebol drwy brofiad) a sgiliau hyfforddi ac ysgogi rhagorol.
Mae gennych chi brofiad o recriwtio, dewis, rheoli a chefnogi gwirfoddolwyr.
Mae gennych chi brofiad o ddysgu wedi’i hwyluso ac addasu cynn wys dysgu sydd wedi’i gymeradwyo’n genedlaethol i ddiwallu anghenion defnyddwyr.
Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, bydd un cwestiwn yn cael ei ofyn yn Gymraeg.
(Darllenwch y Proffil Rôl/Disgrifiad Swydd llawn i gael rhagor o wybodaeth am y swydd wag hon gan gynnwys cyfrifoldebau a manyleb lawn y person. Cyfeiriwch at y ‘Gwybodaeth Ychwanegol’ sydd ynghlwm i gael cymorth i lenwi’ch cais) **The closing date for applications is 23.59 on Monday 21st of March 2022 with interviews to follow. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23.59 ddydd Llun 21 Mawrth 2022 a chynhelir cyfweliadau. We offer a wide range of staff benefits, these include:

  • 36 days holiday (including Bank Holidays)
  • Option to buy an extra 5 days annual leave
  • Up to 6% contributory pension
  • Flexible working policy

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o fuddion i staff, gan gynnwys:

  • 36 diwrnod o wyliau (gan gynnwys Gwyliau Banc) – pro rata ar gyfer swyddi tymor penodol
  • Y dewis i brynu 5 diwrnod ychwanegol o wyliau blynyddol
  • Hyd at 6% o bensiwn cyfrannol
  • Polisi gweithio’n hyblyg
  • Buddsoddiad gwirioneddol yn eich hyfforddiant a’ch datblygiad personol

A little bit more about us…
The British Red Cross help anyone, anywhere in the UK; get the support they need if crisis strikes. From hiring a wheelchair or dealing with loneliness, to adjusting to life in a new country – we’re there when you need us.
Our organisation was born out of a desire to bring help without discrimination.
Impartiality and neutrality have been central values for the Red Cross since we started.
At the British Red Cross, we are looking for the best people to help us provide support to millions of people affected by crisis in the UK. We want our team to reflect the diversity of the communities we serve, offering equal opportunities to everyone, regardless of; age, disability, gender reassignment, marriage and civil partnership, pregnancy and maternity, race, religion or belief, sex, or sexual orientation.
Diversity is something we celebrate and we want you to be able to bring your authentic-self to the Red Cross. We want you to feel that you are in an inclusive environment, and a great position to help us spread the power of kindness.
In the British Red Cross we will not tolerate any form of misconduct, including sexual harassment, exploitation and abuse. We have a code of conduct in place, and are committed to creating a culture of integrity in the organisation where misconduct is not tolerated, situations of abuse are quickly investigated and perpetrators are dealt with effectively.
If you are appointed to a role within BRC you will be subject to the organisation’s Code of Conduct, a copy of which you can find on our website.
As part of its recruitment and selection process the British Red Cross undertakes DBS (Disclosure and Barring Service) checking of all individuals who regularly work with or have access to children and vulnerable adults.
If driving i s an essential requirement of the role, appropriate driver checks will be completed in line with current policy.
The British Red Cross, incorporated by Royal Charter 1908, is a charity registered in England and Wales (220949) and Scotland (SC037738).
Follow us on Twitter @RedCrossJobsUK and on Linked in – British Red Cross, to hear about our latest job vacancies.
Connecting human kindness with human crisis
Gair amdanom ni…
Mae’r Groes Goch Brydeinig yn helpu unrhyw un, unrhyw le yn y DU i gael y cymorth sydd ei angen arnynt os bydd argyfwng. O logi cadair olwyn, delio ag unigrwydd neu addasu i fywyd mewn gwlad newydd – byddwn yno pan fyddwch ein hangen. Gwraidd ein sefydliad oedd dyhead i roi cymorth heb wahaniaethu.
Mae didueddrwydd ac amhleidioldeb wedi bod yn werthoedd canolog i’r Groes Goch ers y cychwyn cyntaf. Yn y Groes Goch Brydeinig, rydym yn chwilio am y bobl orau i’n helpu ni i ddarparu cymorth i filiynau o bobl yn y DU y mae argyfwng wedi effeithio arnynt. Rydym am i’n tîm adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, gan roi cyfleoedd cyfartal i bawb heb ystyried hil, crefydd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd, oedran nac anabledd. Rydym yn dathlu amrywiaeth ac rydym am i chi allu bod yn chi eich hun yn y gwaith, a theimlo eich bod mewn safle gwych i’n helpu ni i ledaenu pŵer caredigrwydd. Nid ydym yn goddef unrhyw fath o gamymddwyn, gan gynnwys aflonyddu rhywiol, camfanteisio a cham-drin. Mae gennym god ymddygiad ar waith ac rydym wedi ymrwymo i greu diwylliant o uniondeb yn y sefydliad, lle nad yw camymddwyn yn cael ei oddef, lle rydym yn ymchwilio i sefyllfaoedd o gam-drin yn gyflym, a lle rydym yn delio â thramgwyddwyr yn effeithiol. Os byddwch yn cael eich penodi i rôl yn y Groes Goch Brydeinig, byddwch yn ddarostyngedig i God Ymddygiad y sefydliad. Mae copi ohono ar gael ar ein gwefan.
Fel rhan o’i phroses recriwtio a dethol, mae’r Groes Goch Brydeinig yn gofyn am archwiliad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) ar gyfer pob unigolyn sy’n gweithio’n rheolaidd gyda phlant ac oedolion agored i niwed neu sydd â mynediad atynt. Os yw gyrru’n un o ofynion hanfodol y rôl, bydd gwiriadau gyrrwr priodol yn cael eu gwneud yn unol â’r polisi cyfredol.
Mae’r Groes Goch Brydeinig wedi’i hymgorffori gan Siarter Frenhinol 1908 ac yn elusen sydd wedi’i chofrestru yng Nghymru a Lloegr (220949) a’r Alban (SC037738).
Dilynwch ni ar Twitter – @RedCrossJobsUK ac ar LinkedIn – British Red Cross, i glywed am ein swyddi gwag diweddaraf.
*Cysylltu caredigrwydd dynol ag argyfyngau dynol.

How to apply

https://www.aplitrak.com/?adid=bGluZHNleW1jYnJpZGUuMDM4OTMuMzgzMEByZWRjcm9zc3VrLmFwbGl0cmFrLmNvbQ


Job Alerts

Subscribe to get the latest  vacancies

[wpforms id=”3416″]


Job Notifications
Subscribe to receive notifications for the latest job vacancies.