
National Trust
Byddwch yn gweithio ar safle eiconig, ffermdy yn dyddio o’r 16eg ganrif, fel Cynorthwyydd Croeso a Gwasanaeth yn darparu gwasanaeth cwsmer o’r safon orau yn Tŷ Mawr Wybrnant. Mae’r rôl yma yn golygu gweithio ar eich pen eich hunain ac mae gallu siarad Cymraeg yn hanfodol.
Summary
Working at an iconic 16th century farmhouse this role as a Welcome & Service Assistant plays a core part in providing fantastic customer service at Tŷ Mawr Wybrnant. This role involves lone working and the ability to speak Welsh is essential.
What it’s like to work here
Sut Beth Yw Gweithio Yma:
Rydym yn agor y ffermdy ar ddyddiau penodol yn ystod y flwyddyn, ar gyfer digwyddiadau a dyddiau agored. Mae’r ystafell arddangosfa a’r tiroedd o gwmpas ar agor bob dydd o Ebrill – Hydref. Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, hyderus a chroesawgar i ehangu ein horiau agor i ddau ddiwrnod yr wythnos yn ystod y tymor ymwelwyr eleni.
Byddwch yn darparu ‘croeso cynnes’ yn cyfarch ymwelwyr a gwneud i bawb deimlo’n gartrefol. Byddwch yn rhannu rhai o storïau’r lleoliad pwysig hwn sydd yn enwog fel man geni’r Esgob William Morgan, ei gyfieithiad o’r Beibl ym 1588 oedd yn dyngedfennol i barhad yr iaith Gymraeg.
Mae’r ffermdy mewn lleoliad heddychlon a phrydferth mewn dyffryn dwy filltir o Benmachno ger Betws y Coed. Byddwch yn gyfrifol am agor y ffermdy a chroesawu ymwelwyr gan ddarparu gwybodaeth am hanes y safle a’i arwyddocâd. Byddai ychydig o wybodaeth flaenorol am arwyddocâd William Morgan a Thŷ Mawr yn ddefnyddiol ond bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu.
Byddwch yn rhan o dîm bychan ond bydd angen i chi fod yn hyderus i weithio ar ben eich hunain rhan fwyaf o’r amser.
Byddwch yn gweithio dau ddiwrnod yr wythnos (dyddiau i’w cytuno) a bydd disgwyl i chi weithio penwythnosau. Rydym yn gobeithio agor un diwrnod pob penwythnos.
The farmhouse is open on specific days during the year, for events and open days. The grounds and exhibition room are open every day from April – October. We’re looking for an enthusiastic, confident, and welcoming person to expand the farmhouse opening hours to two days each week during the main visitor season this year.
You’ll be providing a ‘croeso cynnes’ greeting visitors and helping everyone feel welcome. Sharing some of the stories behind this symbolic place, famous for being the birthplace of Bishop William Morgan, who’s translation of the Bible into Welsh in 1588, helped ensure the language is still spoken today.
The farmhouse is in a peaceful and beautiful valley a couple of miles from Penmachno near Betws y Coed. You’ll be responsible for opening the farmhouse and being on hand to welcome visitors, providing some information about the history of the site and its cultural significance. Some prior understanding of the history and significance of William Morgan and Tŷ Mawr would be preferable, but training will be provided.
You will be part of a small team but will need to be confident and willing to work alone most of the time.
You’ll be working two days each week (to be agreed) and there will be weekend work. We are hoping to open one day each weekend.
What you’ll be doing
Fel elusen gadwraeth fwyaf Ewrop, rydym yn gweithio’n galed i godi arian fel ein bod yn gallu parhau i ofalu am dreftadaeth ein hymddiriedolaeth. Mae ymwelwyr yn rhan allweddol o’r hyn rydym yn ei wneud, felly byddwch yn gyfrifol am sicrhau eich bod yn cynnig gwasanaeth rhagorol i’n holl ymwelwyr, bob dydd. Fel Cynorthwyydd Croeso a Gwasanaeth, eich gwaith chi yw sicrhau bod ein hymwelwyr yn cael croeso perffaith, yn eu paratoi am brofiad arbennig.
Byddwch yn gyfrifol am ateb ymholiadau, a gwneud yn siŵr bod ymwelwyr yn gallu dod o hyd i bopeth sydd ei angen arnynt yn ystod eu hymweliad. Mae deall pam a sut rydym yn ymgysylltu â’n cefnogwyr yn allweddol. Byddwch yn gweithio gyda’r tîm croesawu ymwelwyr i gysylltu popeth rydym yn ei wneud yn ôl i’n hachos a’r gwaith parhaus rydym yn ei wneud.
Byddwch yn cyflawni safonau uchel o gyflwyno yn yr eiddo, ac yn sicrhau bod ein holl gyfathrebiadau gyda’n hymwelwyr yn glir ac yn gyson.
As the largest conservation charity in Europe, we work hard to raise funds, so that we can continue to care for all the heritage in our trust. Visitors are a vital part of what we do, so you’ll be responsible for ensuring that you provide an excellent service to all our visitors, every day. As a Welcome & Service Assistant, it’s your role to ensure that the welcome our visitors receive is perfect, setting them up for an amazing experience for the rest of the day.
You’ll be responsible for answering queries and making sure visitors can find everything they need for their visit. Understanding how and why we engage our supporters is key. Working with our spirit of place you’ll work with the visitor welcome team to link everything we do back to our cause and the on-going work we do.
You’ll deliver high standards of presentation at the property and ensure all our communications with our visitors are clear and consistent.
Who we’re looking for
- Customer focused with an understanding of the importance of great service
- A team player, but also can work on your own initiative
- Well organised and adaptable
- Willing to learn new skills
- Have a positive attitude
- Ffocws ar y cwsmer gyda dealltwriaeth o bwysigrwydd gwasanaeth
- Chwaraewr tîm gwych, ond gall hefyd weithio ar eich menter eich hun
- Trefnus a hyblyg
- Barod i ddysgu sgiliau newydd
- Agwedd gadarnhaol
The package
The National Trust has the motto ‘For everyone, for ever’ at its heart. We’re working hard to create an inclusive culture, where everyone feels they belong. It’s important that our people reflect and represent the diversity of the communities and audiences we serve. We welcome and value difference, so when we say we’re for everyone, we want everyone to be welcome in our teams too.
- Substantial pension scheme of up to 10% basic salary
- Free entry to National Trust properties for you, a guest and your children (under 18)
- Tax free childcare scheme
- Rental deposit loan scheme
- Season ticket loan
- Perks at work discounts i.e. gym memberships, shopping discount codes, cinema discounts
- Holiday allowance up to 32 days relating to length of service, plus holiday purchase scheme, subject to meeting minimum criteria.
- Flexible working whenever possible
- Employee assistance programme
- Free parking at most locations
- Independent financial advice
Click here to find out more about the benefits we offer to support you.
Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw ‘I bawb, am byth’. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo’n gartrefol yn ein timau hefyd.
- Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol
- Mynediad am ddim i eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a’ch plant (dan 18 oed)
- Cynllun gofal plant di-dreth
- Cynllun benthyciad blaendal rhent
- Benthyciad tocyn tymor
- Gostyngiadau buddion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema
- Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas â hyd y gwasanaeth, yn ogystal â chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol.
- Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo’n bosibl
- Rhaglen cynorthwyo cyflogai
- Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau
- Cyngor ariannol annibynnol
Cliciwch yma i ddysgu mwy am y buddion rydym yn eu cynnig i’ch cefnogi chi.
To apply for this job please visit careers.nationaltrust.org.uk.